Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Ebrill 2024
Amser:
09.30 -
12.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13860
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Delyth Jewell AS Mark Drakeford AS (yn lle Julie Morgan AS) Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Carl Banton, Yr Awdurdod Glo Daniel Therkelsen, Rhwydwaith Gweithredu Glo Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Marcus Bailie, Extinction Rebellion Cymru David Kilner, Climate Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Lukas Evans Santos (Dirprwy Glerc) Lorna Scurlock (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson MS ac roedd Mark Drakeford AS yn dirprwyo ar ei rhan.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Julie Morgan AS a Janet Finch-Saunders AS.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Awdurdod Glo.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Rhwydwaith Gweithredu Glo a Chyfeillion y Ddaear Cymru.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Extinction Rebellion Cymru a Climate Cymru.
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Members considered the evidence received under items 2, 3 and 4.
8.1 Derbyniodd yr Aelodau’r adroddiad drafft yn amodol ar ar rai mân newidiadau.
9.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.